Saturday, November 22, 2014

Sturgeon yn ysgogi

Dwi wastad wedi bod yn ffan o Nicola Sturgeon, ond  wythnos yma, mae fy edmygedd ohoni wedi cyrraedd yr entrychion ac mae hi wedi fy ysbrydoli a fy ysgogi.

Yn ei dyddiau cyntaf fel Arweinydd yr SNP, a rwan fel Prif Weinidog yr Alban, mae hi wedi creu argraff ryfeddol. A doedd hi ddim yn hawdd iddi fod yn gwneud hynny, a hithau'n dilyn cawr o arweinydd fel Alex Salmond. Ond dydi hynny i weld yn poeni dim arni. Dyma berson hyderus, gyda neges glir sydd yn barod i arwain a chymryd penderfyniadau dewr. Un enghraifft o hynny oedd y newidiadau a wnaed i'r Cabinet ddoe, gan sichrau cydraddoldeb o ran y nifer o ddynion a merched fel Gweinidogion. Fe bwysleisiodd mai nid newid symbolaidd mo hyn yn unig, ond yn hytrach, bod pawb yno gan eu bod yn haeddu eu lle. Hynny ydi, oes mae angen cydraddoldeb ond mae pawb sydd wedi eu dewis yn alluog hefyd. Yr hyn dwi'n ei hoffi am y penderfyniad yma ydi'r ffaith nad ydi hi'n ymddiheuro amdano, neu'n trio chwarae lawr ei bwysigrwydd. Mae'n dynodi pennod newydd, a ffordd newydd o wneud pethau. Cyferbyniad gwych i lwydi gwleidyddiaeth San Steffan, a cronies Cameron, Clegg a Miliband.

Mae hi fel chwa o awyr iach, ac yn brawf nad oes rhaid i ferch ymddwyn fel dyn i gael ei chymryd o ddifri fel gwleidydd. Mae hi'n cyflawni'r amhosib o ddod drosodd yn gadarn ac awdurdol, ond heb gael ei phortreadu fel bitsh - hoff ffordd y wasg o ddisgrifio unrhyw ferch gyda than yn ei bol fel arfer. Oes, mae 'na rai sy'n hoffi canolbwyntio ar ei gwallt a'r hyn mae hi'n ei wisgo a sut mae hynny wedi newid ar hyd y blynyddoedd ac yn tynnu sylw at y ffaith nad oes ganddi blant yn hytrach na'r hyn mae hi'n ei ddweud, ond mae hi hyd yn oed yn ymateb i gwestiynnau gwirion ynglyn a hynny i gyd mewn ffordd gynnes a llawn hiwmor. A dyma ran o'r apel - bod ei thraed yn gadarn ar y ddaear, a'i bod yn medru ymateb mor naturiol i hyd yn oed cwestiynnau hollol hurt.

Mae'r deffroad o ddemocratiaeth yn yr Alban yn sgil y refferendwm yn rywbeth yr ydym i gyd ym Mhlaid Cymru yn ei edmygu tra hefyd yn teimlo'n eiddigeddus. Ond nid rhywbeth dros nos ydi'r newid hwn. Mae'r SNP wedi gweithio'n ddygn, yn ddisgybledig ac yn strategol am flynyddoedd. Roeddynt hefyd wedi bod yn gall drwy sicrhau proffil uchel i Sturgeon,yn arbennig yn ystod y refferendwm, gan sicrhau bod olynydd amlwg a naturiol i Salmond. Sawl Arweinydd arall sydd mor barod i rannu llwyfan a chyhoeddusrwydd gyda'u Dirprwy?

O ran arweinyddiaeth, mi yda ni'n lwcus bod ganddo ni berson yn y Blaid sydd gyda rhinweddau cyffelyb i Sturgeon sef Leanne Wood. Ac mae yna chwyldro tawel yn digwydd yma hefyd, gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu argyhoeddi a'u hysgogi gan ei neges. Mae yna groesdoriad gwych a difyr o ymgeisyddion, gyda ystod eang o sgiliau fyddai yn eu gwneud yn Aelodau Seneddol neu Cynulliad rhagorol. Dwi'n edrych ymlaen i gefnogi ymgyrchoedd y rhai'n sefyll ond rhaid cyfaddef yn dechrau teimlo'n eiddigeddus na fyddai yn sefyll fel ymgeisydd tro yma. Heb os, mae yna gyfnod difyr o'n blaenau rhwng rwan a'r Etholad Cyffredinol... A dwi'n teimlo'n obeithiol y bydd Plaid Cymru'n ennill tir. 




Thursday, May 8, 2014

Merch falch iawn

Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch fy Nhad ar gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Môn heddiw. Dwi'n ferch falch iawn, a dwi'n gwybod y gwnaiff fwynhau'r rôl newydd yn arw. Mochyn Môn ydi Dad, ac mae o'n falch iawn o'r ffaith ei fod yn Fonwysyn. Mi fydd o'n llysgennad gwych i'r Ynys. Mi fysa fy Nain, Nain Capel Coch, wrth ei bodd ei weld yn brif ddinesydd yr Ynys am flwyddyn tasa hi dal yn fyw. A dwi'n gwybod bydd fy mab, Twm, sydd yn flwydd dydd Llun nesaf, yn meddwl bod cadwyn newydd Taid yn edrych yn flasus iawn! Dwi'n siwr bydd hi'n flwyddyn heriol, ond eto hynod o ddifyr hefyd. Pob lwc Dad! Mae'r datganiad i'r wasg i'w weld yma

Monday, March 3, 2014

Pigo Cydwybod

Neithiwr, fe wyliais raglen Cwmni Da - Merêd - sef portread o Dr Meredydd Evans. Anhygoel meddwl bydd o'n 95 eleni. Ac anhygoel meddwl am yr hyn mae o wedi gyflawni yn ei fywyd.

Roedd hi'n raglen gynnil a syml, ac roedd hyn yn ein galluogi fel gwylwyr i ganolbwyntio ar Merêd a'r hyn 'roedd yn ei ddweud. Roedd hi'n raglen emosiynol iawn hefyd, ac amryw o weithiau, fe lanwodd fy llygaid a dagrau wrth iddo rannu gyda ni ei feddyliau am Gymru, y Gymraeg a'i fywyd. Ac wrth gwrs, ei berthynas a Phyllis. Cefais y fraint o dreulio cryn amser yng nghwmni Phyllis pam wnaeth fy rhieni raglen deledu amdani. Roedd yn amser arbennig iawn, ac fe greodd gryn argraff arna'i. Ac fe gawsom goblyn o hwyl hefyd.

Ond yn ol at neithiwr. Mae nifer o'r hyn ddywedodd Merêd wedi pigo fy nghydwybod. Heb os, mae o wedi dangos dewrder a chryfder drwy ei fywyd wrth ymladd dros barhad yr iaith. Er mod i'n ei adnabod, ac yn ymwybodol o nifer o bethau mae wedi ei gyflawni, doeddwn i ddim yn ymwybodol neu'n cofio mai mewn araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y rhybuddiodd yn gadarn ynglyn a dyfodol yr iaith. Ac er gwaetha'r ffaith fod pobl wedi ei gyhuddo o fod yn hiliol oherwydd ei sylwadau, fo oedd yn llygad ei le. Gresyn na wnaeth mwy o bobl gymryd sylw amser hynny, a gweithredu. Mi yda ni, yn anffodus, yn rhy barod i fod yn obeithiol yn hytrach na wynebu'r hyn sydd yn digwydd o'n cwmpas, mewn cymunedau ledled Cymru. Er ein bod yn cytuno. ar y cyfan, fod rhaid gwneud rhywbeth am y peth a'i bod yn sefyllfa drist, lle mae'r gweithredu fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol? A beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd i atal dirywiad pellach o ran nifer siaradwyr Cymraeg ers cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad diwethaf? Yda ni rhy 'boleit' fel Cymry Cymraeg i wneud yr hyn sydd ei angen?

Nid son ydw i ynglyn a phroestio ac ati. Ond yn hytrach gweithredu o ran newid polisiau ar lefel leol a chenedlaethol fydd yn creu newid gwirioneddol. Pam na fu fwy o drafod ar syniadau radical, newydd, megis rhai Adam Price yn ei bapur Arfor a ganfyddir drwy glicio yma. Tydw i ddim yn honni bod cynllun Adam yn berffaith, ond mae'r syniadau sydd yn y papur hwn werth eu trafod a'u datblygu ymhellach. Mae nhw'n gyffrous. Mae nhw'n cynnig gobaith gwirioneddol i barhad y Gymraeg. Pam na wnawn ni ystyried gwneud rhywbeth hollol wahanol, cyn i bethau waethygu?

A dyma pam mae fy nghydwybod yn teimlo'n anestmwyth. Beth ydw i wedi ei wneud, mewn gwirionedd, i ymateb i heriadau o'r fath? Ambell araith. Ambell erthygl. Cwyno gyda ffrindiau. Helpu i gyhoeddi papur Adam. Ond wedi hynny, dim. A dwi'n teimlo cywilydd mawr am hynny. Fedra'i ddim bodloni ar gwyno a disgwyl i eraill ddatrys y broblem os ydi pobl 94 oed yn gwneud gymaint mwy!

Dwi'm isho cyrraedd diwedd fy oes, a meddwl mod i heb drio fy ngorau i frwydro dros ddyfodol gwlad a iaith dwi'n credu'n angerddol ynddi. A diolch i raglen neithiwr, a geiriau Merêd am fy atgoffa o hynny. A gan fy mod mewn hwyliau sentimental, dwi am eich gadael am heno hefo un o fy hoff gerddi gan T.H.Parry Williams, sy'n dod i'r cof yn aml pan dwi'n meddwl am fod yn Gymraes!

Hon

Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap

Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn.

A phwy sy’n trigo’n y fangre, dwedwch i mi.
Dim ond gwehilion o boblach? Peidiwch, da chwi

 chlegar am uned a chenedl a gwlad o hyd;
Mae digon o’r rhain, heb Gymru, i’w cael yn y byd.

Rwyf wedi alaru ers talm ar glywed grwn
Y Cymry bondigrybwyll, yn cadw swn.

Mi af am dro, i osgoi eu lleferydd a’i llên,
Yn ôl i’m cynefin gynt, a’m dychymyg yn drên.

A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll
Ymhell o gyffro geiriau’r eithafwyr oll.

Dyma’r Wyddfa a’i chriw; dyma lymder a moelni’r tir;
Dyma’r llyn a’r afon a’r clogwyn; ac, ar fy ngwir,

Dacw’r ty lle’m ganed. Ond wele, rhwng llawr a ne’
Mae lleisiau a drychiolaeth ar hyd y lle.

Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chwi,
Mae rhyw ysictod fel petai’n dod drosof i;

Ac mi glywaf grafangau Cymru’n dirdynnu fy mron.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.

Sunday, November 17, 2013

10k - dal yn fyw!

Mae gen i ychydig o gywilydd mod i wedi bod yn poeni cryn gymaint am gwbwlhau fy ras 10k gyntaf erioed. Yn arbennig felly o weld ar Twitter a Facebook pa mor aml mae nifer o fy ffrindiau yn rhedeg hyn neu'n bellach jest am hwyl, heb son am faint sy'n cwbwlhau marathon o leiaf dwy waith y flwyddyn. Ond - mae'n rhaid i bawb ddechrau'n rhywle yn does. A dyma oedd fy nechrau i heddiw 'ma, fel rhan o Morunning ym mharc Bute Caerdydd.

Roeddwn yn rhedeg fel rhan o dim Fit Mums South Wales, sydd yn grwp ymarfer corff rwyf yn mynychu. Syniad ein hyfforddwraig, Abi, oedd annog 35 ohonom i redeg a dwi'n falch iddi wneud hynny. Ffordd dda o sicrhau ein bod yn ymarfer corff yn rheolaidd ers i'r clociau droi nol, a profi gallwn fod yn fwy ffit nag oeddem cyn cael plant! Roedd yna awyrgylch arbennig wrth imi redeg, ynghyd a chefnogaeth aruthrol drwy gydol yr amser roeddwn yn rhedeg er fy mod yn araf fel malwen. Y peth pwysicaf i bawb oedd cefnogi'r elusen - a cwbwlhau! (Fe enillodd Abi y 10k gyda llaw!)

Dwi'n berson hynod o gystadleuol fel arfer, ond roedd rhaid imi dderbyn heddiw nad oeddwn ym mynd i gwbwlhau mewn amser cyflym. Yn wir, dwi'n siwr bod rhai pobl yn cerdded 10k yn gynt na dwi'n medru ei redeg. Ond dyna ni. I ddynes oedd methu rhedeg o gwbwl drwy gydol fy mywyd, dwi'n hapus mod i wedi llwyddo i orffen. A dim ond gwella medrith fy amser erbyn flwyddyn 'nesa!

Diolch i Geraint a Twm am ddod i fy nghefnogi. A diolch i bawb am y geiriau o gefnogaeth, unai wyneb yn wyneb neu drwy rydweithiau cymdeithasol. Bu'n hwb aruthrol. Hynny, a gwrando ar gerddoriaeth Bryn Fon a Tom Jones ar fy ipod wrth redeg o gwmpas! Diolch iddynt hwythau hefyd am fy nghadw i fynd!


Tuesday, September 24, 2013

Ein Priodas - Our Wedding

Ar y 7fed o Fedi, fe briododd Geraint Day a minnau yn Gregynog, Sir Drefaldwyn. Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy, a gan mod i'n arfer rhannu digwyddiadau fy mywyd yma, dyma lun neu ddau o'r diwrnod wedi eu tynnu gan Keith Morris. Teimlo'n ddynes lwcus iawn.

On the 7th September, Geraint Day and I were married at Gregynog Hall, Montgomeryshire. It was a fantastic day, and as I usually share my live events on my blog, here are a few photos taken by Keith Morris. I feel like the luckiest woman on earth!


 

Thursday, September 19, 2013

Môn a San Steffan


Yn groes i’r hyn sydd wedi cael ei ysgrifennu gan ambell berson, does dim sail i’r si fy mod wedi rhoi fy enw gerbron fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Ynys Môn yn San Steffan. A hoffwn gadarnhau yma na fyddaf yn gwneud chwaith.
Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd. Ers imi gystadlu am sedd y Cynulliad ym Mehefin, mae nifer o aelodau Môn wedi cysylltu â mi yn gofyn imi roi fy enw gerbron ac yn datgan eu cefnogaeth. Heb os, cefais fy nhemtio. Dyma’r ardal lle cefais fy magu. Dwi’n teimlo’n agerddol dros yr Ynys, ac yn poeni am ei dyfodol. A dwi’n parchu aelodau’r Blaid ym Môn hefyd ac yn casáu meddwl mod i’n siomi nifer ohonynt drwy beidio mynd am yr enwebiad. Dwi’n grediniol bod gan y Blaid obaith gwirioneddol o gipio’r sedd oddi ar y Blaid Lafur yn 2015 yn sgil canlyniadau gwych eleni yn etholiadau’r Cyngor Sir a wedyn buddugoliaeth ysgubol Rhun. Dwi’n siŵr y bydd hi’n ymgyrch egnïol a difyr. Pe byddwn wedi sefyll a chael fy mabwysiadu yn ymgeisydd, fe fyddwn wedi symud i Fôn ac ymgyrchu yn galed i adennill y sedd a mwynhau pob eiliad. Ond, er gwaetha’r temtasiwn o gael cyfle posibl i fod yn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Plaid Cymru a sicrhau bod Môn yn wyrdd yn San Steffan hefyd, mae yna resymau pam fy mod wedi penderfynu peidio mynd amdani. Ac i roi taw ar y sibrydion, mae’n well imi fod yn agored am y peth, a rhannu fy rhesymau hefo chi.
Y prif reswm ydi hyn: Aelod Cynulliad nid Aelod Seneddol fyddwn i’n hoffi bod. Dwi wedi gweithio yn San Steffan i Aelodau Seneddol y Blaid. Dwi’n deall y swydd, a pha mor galed maen nhw’n gweithio yno. Mae’r oriau yn faith. Ac mae’r bywyd yn Llundain yn un hynod o unig. Fedrwch chi ddim dod a’ch teulu hefo chi, a fasa nhw ddim yn eich gweld chi beth bynnag oherwydd oriau’r Senedd. I berson sengl neu rywun hŷn, mae hyn yn iawn. Ond - pedwar mis oed ydi Twm, fy mab. Byddai bod yn Aelod Seneddol yn golygu peidio ei weld am dair neu bedair noson bob wythnos yn ystod tymor y Senedd. Mi fasa’n torri fy nghalon i wneud hynny. Fasa'r un peth ddim yn wir am y Cynulliad wrth gwrs. Er bod Caerdydd yn bell iawn o’r Gogledd, y gwir amdani ydi y byddai’n bosib i Twm drafeilio hefo fi i Gaerdydd. Mae oriau gwaith y Cynulliad yn llawer mwy cyfeillgar i deuluoedd, a gallwn ei weld mwy neu lai bob nos. Hyd yn oed ar ôl iddo ddechrau yn yr ysgol, gallwn wneud fel mae ambell Aelod Cynulliad arall wedi ei wneud, a’i yrru i ysgol yng Nghaerdydd. Byddai yno hefo fi drwy’r wythnos, ac i fyny yn y Gogledd ar y penwythnosau. Er nad yw hynny’n ddelfrydol, byddai’n golygu na fyddwn i’n gorfod dewis rhwng gyrfa wleidyddol neu fod yn Fam.

Cofiwch chi, nid pawb sy’n cytuno y dylwn i geisio cael fy ethol i’r Cynulliad rŵan mod i’n Fam. Cefais sioc fawr, a fy siomi, o dderbyn tua hanner dwsin o negeseuon digon ffiaidd ar ol mynd am enwebiad Môn pan oedd  Twm yn chwe wythnos oed. A dwn i ddim faint o bobl ddywedodd wrthai yn yr Eisteddfod ei bod yn fendith na chefais fy newis er mwyn imi allu bod yn “Fam Iawn” i Twm. Dywedwyd bod gennyf ddigon o amser i fynd am y Cynulliad pan mae o’n hŷn. Tan hynny, ro’n i wastad wedi meddwl bod ein cymdeithas wedi newid a bod dynion a merched bellach yn gyfartal. Ond crafwch dan yr wyneb, ac edrych ar rai o’r sylwadau sy’n ymddangos ar Golwg 360, ac mi welwch chi pa mor barod ydi pobl i feirniadu merched sydd yn meiddio herio, a dangos unrhyw fath o uchelgais. Bitsh neu ast ydach chi os dangoswch unrhyw fath o dân, tra bod dynion cyffelyb yn “gryf”, ac yn “arweinwyr cenedl”. Bonws ydi’r ffaith bod nhw’n ddynion teulu. Does neb yn gweld bai arnyn nhw am adael eu plant er mwyn dilyn eu huchelgais wleidyddol. Dim rhyfedd bod llai o ferched  yn fodlon rhoi eu henwau ymlaen pan mai dyma’r math o agweddau sydd yn ein hwynebu.

Ond, er imi gael fy nadrithio rywfaint gan rai o’r agweddau hyn, dwi ddim am adael i ambell unigolyn sexist ennill chwaith. Mae’r mwyafrif o bobl wedi bod yn gefnogol imi, a dwi am barhau i geisio cael fy ethol yn Aelod Cynulliad. Caerdydd ydi’r lle i fod, nid Llundain. Yn wir, dwi’n mawr obeithio na fydda ni angen gyrru neb i Lundain cyn hir ac y bydd grym ein Senedd ein hunain yn parhau i gynyddu. Mae bod yn brif blaid yn y Cynulliad o fewn ein cyrraedd, a hoffwn fod yn rhan o’r tîm sy’n arwain ein cenedl tuag at annibyniaeth.

Dwi’n poeni am ddyfodol Cymru, a hoffwn gael y cyfle i chwarae rhan flaenllaw mewn newid ein cenedl er gwell. Dwi isho arwain drwy esiampl, yn hytrach na chwyno o’r ochrau. Dwi’n poeni hefyd am ddyfodol yr ardaloedd lle y cefais fy magu ym Mon ac Arfon, ac am y bobl sydd yn ei chael hi’n anodd cynnal bywoliaeth yno neu ganfod swydd. Dwi’n gwybod o brofiad pa mor brin ydi swyddi yno. Dwi’n un o’r bobl sydd wedi gorfod symud i Gaerdydd i ganfod swydd gan nad oedd un addas ar gael yn y Gogledd. Gall Aelod Cynulliad wneud cymaint o wahaniaeth ar ran ei etholwyr, a dyna brif apêl y swydd i mi. Hyd nes daw’r cyfle i sefyll, byddaf yn parhau yn aelod gweithgar ar draws Cymru, ac yn cefnogi ein hymgeiswyr ym mhob etholiad. Er mai ym Mhontypridd dwi’n byw ar y funud, mae fy nghalon yn parhau yn y Gogledd ac yno dwi’n gweld fy nyfodol.
Dwi’n edrych ymlaen at weld pwy fydd yn sefyll ym Môn ar gyfer San Steffan, a pwy gaiff eu dewis. Pob lwc i bawb sydd yn ddigon dewr i fynd amdani. Dwi’n edrych ymlaen at gefnogi ymgyrch y person buddugol a’u helpu, gobeithio, i ennill y sedd. Dyna fyddai’r canlyniad gorau posibl, nid i Blaid Cymru yn unig, ond i bobl Môn hefyd.

Sunday, June 30, 2013

Rollercoaster

Well, the past week and a half has been something of a rollercoaster. One minute I was going for Arfon, the next minute I was being urged to pull out of the race and go for Ynys Mon as Ieuan had stepped down of the Assembly with immediate effect and a by-election was imminent. As an Anglesey girl, it had always been my dream to represent the island and though the timing wasn't ideal (given that my son was only six weeks old), I decided to go for it.

Whilst some were advising me to keep my name in for both constituencies, I felt that wouldn't be fair on either Arfon or Ynys Mon. Ideally, both selections wouldn't have taken place during the same week but c'est la vie. Yes, standing down from one race to enter another did open me up to criticism that I was a political butterfly but believe me, it was one of the toughest decisions I've ever made. I had a lot of support in Arfon, and I hated letting people down by pulling out of the race. But on the other hand, I had people I've known all my life asking me to go for Ynys Mon...

Do I regret that decision? No. And if placed in the same position again, I would make the same decision. But I do regret how things came about, and that Ynys Mon had to rush the selection process. I did, however, enjoy the hustings. I was impressed by Ann, and though we were facebook friends prior to this week, I feel we definitely became real friends through the experience. I was also glad to have the opportunity to debate Wylfa, and explain my opposition to nuclear power in a constructive way.

I wish Rhun all the best. He has a fantastic team of people to help him in Anglesey, and I know they'll support him 100%. They know what they're doing, as was proven during the recent council elections on the island, and Plaid Cymru should have no problem keeping the seat. I look forward to going out to campaign during the next month, and taking Plaid's positive message out to the people of Ynys Mon.